Athro'n rhedeg Marathon Llundain i gefnogi ei ddisgyblion

Mr Ceri John Stephens a rhai o'i ddisgyblion sydd wedi bod yn ei helpu i ymarfer
- Cyhoeddwyd
Mae athro yn Ysgol Gyfun Rhydywaun yng Nghwm Cynon wedi penderfynu rhedeg Marathon Llundain ar 27 Ebrill er mwyn cefnogi ei ddisgyblion.
Hyd yn hyn, mae Mr Ceri John Stephens, athro busnes a phennaeth pynciau galwedigaethol yn yr ysgol wedi codi £1500 at Siop Siân – hwb yn yr ysgol sy'n darparu dillad ysgol, dillad chwaraeon ac offer i ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig.
Yn ôl Ceri, mae'n ei dristáu pan nad yw rhai o'r plant mae'n ei ddysgu'n gallu cael mynediad at fathau o chwaraeon gan nad oes ganddynt y cyfarpar neu'r dillad cywir.
"Mae rhai o ddisgyblion Rhydywaun yn dod o rai o ardaloedd tlotaf y Deyrnas Unedig, felly rwy'n gobeithio y bydd hyn yn gyfle i godi arian i gefnogi'r disgyblion hynny ond hefyd i ddangos pwysigrwydd gosod gôl a'i gyrraedd," meddai.
Casglu arian at Siop Siân
Ac ar ôl ceisio cael lle ym Marathon Llundain bob blwyddyn ers degawd drwy'r balot enwog, mae'n un o'r 15 o athrawon sy'n cael ei noddi i redeg y marathon gan Team TCS, prif noddwr y digwyddiad.
"Dwi wedi dwli ar redeg ers blynydde ac wedi 'neud sawl 10k ac ambell i farathonau llawn. Yr un gynta nes i oedd Great Marathon Llanelli ond dwi erioed wedi cael lle ym Marathon Llundain drwy'r balot.
"Fi'n credu oedd dros 800,000 o redwyr wedi ceisio eleni a 30,000 wedi llwyddo felly mae'n hynod gystadleuol. Weles i'r gystadleuaeth yma gyda TCS oedd eisiau noddi athrawon i gymryd rhan ac o'n i'n meddwl fod e'n gyfle anhygoel i gefnogi Ysgol Gyfun Rhydywaun," eglurodd.

Gydag wythnos i fynd tan y diwrnod mawr, dywed Ceri bod y gefnogaeth iddo gan y disgyblion, y staff a'r gymuned "wedi bod yn anhygoel".
"Mae pawb wedi bod yn positif a phawb o fewn ein cymuned ni yn gweld pa mor bwysig yw'r achos, bod rhai teuluoedd yn stryglo a bod plant ysgol ddim yn cael cyfleoedd cyfartal," meddai.
"Achos 'mod i wedi ennill fy lle doedd dim baich codi arian ond wnes i ddefnyddio'r cyfle i godi arian at fenter fewnol o'r enw Siop Siân achos weithiau mae'n bach o strygl i godi cyllid.
"Dwy o athrawon yr ysgol ddechreuodd Siop Siân. Dyw e ddim yn siop ffisegol gyda thîl ond yn hwb sy'n helpu plant ac mae ganddyn nhw stafell llawn stoc a rhoddion gan y gymuned.
"Nid dillad a chyfarpar yn unig maen nhw'n cynnig ond hefyd cymorth i rieni wrth lenwi gwaith papur a chlwb brecwast."
Gosod esiampl
Nid Ceri yw'r unig athro yn Ysgol Gyfun Rhydywaun sy'n cadw'n heini. Mae'r brifathrawes, Miss Lisa Williams, eisoes wedi rhedeg Marathon Llundain ddwywaith a'r pennaeth cynorthwyol newydd gwblhau Marathon Paris.
Gobaith Ceri yw bod aelodau heini o staff yn ysbrydoli'r disgyblion i fyw bywyd iach ac i ffeindio gweithgaredd maen nhw'n ei fwynhau:
"Dwi wastad yn siarad gyda'r plant yn yr ysgol am ffeindio rywbeth sy'n helpu nhw i ymdopi gyda'r heriau o fod yn ddisgyblion. Mae'n gallu bod yn anodd bod yn berson ifanc felly mae strategaethau ymdopi'n bwysig. Faswn i'n dwli gweld disgyblion yn dechrau rhedeg ar ôl gweld beth i fi'n 'neud.
"Gobeithio ein bod ni fel staff yn uwcholeuo'r ffaith bod cadw'n ffit yn bwysig yn feddyliol ac yn gorfforol. Bues i'n trafod gyda rhai myfyrwyr y chweched sydd ar fin cwblhau eu arholiadau olaf a sydd dan lot o bwysau am fuddion ffeindio rhywbeth sy'n rhoi hunaniaeth i'ch hunan – gall e fod yn wrando ar gerddoriaeth i wâc efo'r ci neu redeg."
Ac mae Ceri'n teimlo'n falch iawn o ddisgybl ym mlwyddyn 7, Betty Lancaster, sydd wedi ei dewis i gynrychioli Cymru yn y Mini London Marathon ar 26 Ebrill.
"Rydyn ni gyd yn falch iawn o lwyddiant Betty a bydd ei theulu hi'n dod lan felly bydd digon o gefnogaeth o Rhydywaun yn Llundain dros y penwythnos.
"Mae staff yr ysgol yn gobeithio fy ngweld i ar y teledu... gawn ni weld os wnawn nhw fy spotio i allan o 50 mil!"

Cymryd rhan yn y 'Christmas Pudding Run' ar draeth Merthyr Mawr (chwith), a chymryd rhan mewn ras 'Backyard Ultra' (dde)
Ymarfer
Fel rhedwr profiadol sut mae Ceri wedi bod yn hyfforddi?
"Dwi'n rhedeg bedair gwaith yr wythnos. Dwi'n gwneud 5 milltir nos Fawrth, Iau a Gwener a long run ar fore dydd Sul.
"Mi ydw i wedi cael cwpwl o anafiadau yn ddiweddar, dwi'n 41 nawr felly falle ei fod yn syniad i mi wneud bach o yoga hefyd dro nesa," meddai Ceri.
Dyw Ceri ddim yn poeni'n ormodol o ran amser, er y byddai'n falch o gwblhau'r cwrs 26 milltir mewn llai na 4.5 awr:
"Mwynhau'r diwrnod - y torfeydd, y golygfeydd a chwrdd a lot o bol a gwrando ar straeon pobl eraill sy'n bwysig," meddai.
Ac yntau ynghanol ei wyliau pasg ar hyn o bryd ac yn cael saib o ddysgu, mae'n "falch bod ganddo amser i orffwys" cyn dydd Sul nesaf. Ond mae un peth yn ei boeni:
"Fydda i 'nôl yn yr ysgol y bore wedyn, felly fydd bach o help i gerdded yn grêt!"

Bron â chyrraedd y llinell derfyn!
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd10 Ebrill