Dyn yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio menyw 48 oed

Tracey Davies Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Tracey Davies ei ganfod mewn eiddo ym Mryn Terrace, Cefn Cribwr

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 56 oed o Ben-y-bont ar Ogwr wedi ymddangos mewn llys wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth.

Cafodd Michael Davies ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth Tracey Davies, 48 oed, yn gynharach y mis hwn.

Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau am bryder am les dau o bobl mewn eiddo yng Nghefn Cribwr, Pen-y-bont ar Ogwr am 21:15 ar 18 Ebrill.

Yn ystod y gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Caerdydd, siaradodd Mr Davies i gadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni a'i gyfeiriad.

Drwy gydol y gwrandawiad byr, edrychodd Davies, a oedd â barf ac yn gwisgo crys chwys glas, yn syth ymlaen ac ni edrychodd i mewn i'r oriel gyhoeddus lle'r oedd pobl yn crio.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan y bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar 29 Ebrill.

Cyn y gwrandawiad, dywedodd y Ditectif Arolygydd Claire Lamerton, o'r tîm ymchwiliadau troseddol mawr: "Mae hwn wedi bod yn ddigwyddiad sydd wedi achosi tipyn o straen i'r gymuned yng Nghefn Cribwr.

"Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu a ffrindiau Tracey."

Cadarnhaodd nad oedd yr heddlu'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig