Diffyg cyflawni yn 'rhwystredig' i Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

Ffynhonnell y llun, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Derek Walker ei benodi yn Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn 2022 - yr ail berson i ymgymryd â'r rôl
  • Awdur, Steffan Messenger
  • Swydd, Gohebydd amgylchedd BBC Cymru

Mae Cymru'n wynebu dyfodol nad fydd modd ei adnabod os na fydd gweithredu ar frys i warchod yr amgylchedd, taclo tlodi a phroblemau iechyd, medd pencampwr dros genedlaethau'r dyfodol.

Cafodd y rôl unigryw ei chreu ddegawd yn ôl drwy ddeddf sydd bellach yn gorfodi cyrff cyhoeddus i ystyried goblygiadau hir-dymor eu holl benderfyniadau.

Ond mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Derek Walker wedi dweud wrth y BBC ei fod yn teimlo'n "rhwystredig" nad oes mwy wedi'i gyflawni.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn rhybuddio am fethiant i ysgogi "newid system gyfan".

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol wedi "newid sut rydyn ni'n gweithio ac yn meddwl am ddatblygu cynaliadwy".

Fel rhan o'r rôl mae'n rhaid i Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ysgrifennu adroddiad yn nodi cyrhaeddiad bob pum mlynedd - i'w gyhoeddi flwyddyn cyn etholiad y Senedd.

Tra'n nodi llwyddiannau fel cyfraddau uchel ailgylchu Cymru a buddsoddiad mewn trafnidiaeth gynaliadwy, mae'n rhybuddio hefyd am "heriau sylweddol".

Beth yw'r heriau?

Mae'r rhain yn cynnwys newid hinsawdd a'r dirywiad ym myd natur, gydag un ym mhob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru.

Mae 273,000 o gartrefi mewn perygl o lifogydd, gydag amcangyfrif y gallai'r ffigwr ddyblu ymhen 100 mlynedd o ganlyniad i newidiadau ym mhatrymau tywydd a chynnydd yn lefel y môr.

Tra bod gan Lywodraeth Cymru darged i gyrff cyhoeddus gyrraedd sero net erbyn 2030 - gan olygu nad ydyn nhw'n cyfrannu at gynhesu byd eang - mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad bod nifer yn poeni a allan nhw gyrraedd y nod a bod angen "adnoddau ychwanegol sylweddol".

Ar y llaw arall, mae'r ffaith nad oes targed cyfreithiol ar adfer natur yng Nghymru yn golygu bod y rhan yna o'r broblem "ddim yn derbyn digon o flaenoriaeth" gan y sector cyhoeddus.

Mae'r adroddiad yn galw hefyd am blismona cryfach o achosion o lygredd, a rhoi mwy o rym i Gyfoeth Naturiol Cymru allu cosbi'r sawl sy'n gyfrifol.

Disgrifiad o'r llun, Rhaid rhoi grymoedd pellach i Gyfoeth Naturiol Cymru gosbi achosion o lygredd, meddai'r comisiynydd

Ymysg yr heriau eraill mae lefelau tlodi sy'n parhau i fod yn "annerbyniol o uchel".

Mae'r adroddiad yn galw ar bob corff cyhoeddus i ymrwymo i gynnig y Cyflog Byw Gwirioneddol - hyd yma dim ond 13 allan o'r 56 sydd wedi gwneud hynny.

Ym maes iechyd mae'r comisiynydd yn dweud na all Gymru fforddio "parhau i drin y symptomau yn hytrach na mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol".

Mae'r gwasanaeth iechyd yn gwario £1 allan o bob £10 ar ddiabetes, er enghraifft, er bod modd osgoi "y rhan fwyaf o achosion diabetes math 2" drwy ddeiet iach ac ymarfer corff, meddai.

Cymru sydd a'r ganran ucha' o bobl yn byw gyda diabetes drwy'r DU, tra bod un ym mhob pedwar oedolyn yn ordew.

Mae lefelau boddhad gyda bywyd a gorbryder ymysg oedolion yn gwaethygu, tra gall pobl bellach ddisgwyl byw eu 20 mlynedd ola' mewn iechyd gwael.

Mae'r comisiynydd hefyd yn rhybuddio bod y celfyddydau "mewn creisis" yng Nghymru, gan fynnu bod diwylliant ffyniannus yn allweddol i les pobl.

Mae ymddiriedaeth mewn sefydliadau cyhoeddus yn dirywio, a chapasiti'r sector cyhoeddus "ar dorri" o ganlyniad i gynnydd mewn galw a blynyddoedd o lymder.

Ydy Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol yn gweithio?

Cymru oedd y wlad gyntaf i ddeddfu ar gyfer hawliau dinasyddion nad oedden nhw wedi'u geni eto, pan basiwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn 2015.

Degawd yn ddiweddarach, mae'r adroddiad cyrhaeddiad diweddaraf yn dweud bod yna "gefnogaeth frwd" ar draws y sector cyhoeddus.

O weinidogion Llywodraeth Cymru i arweinwyr ysgolion ac ysbytai, maen nhw oll bellach i fod yn gwerthuso goblygiadau hir-dymor eu penderfyniadau a gweithio mewn partneriaeth i daclo heriau'r dyfodol fel newid hinsawdd ac anghydraddoldebau iechyd.

Ond daeth yr adroddiad i'r casgliad nad oedd nifer o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus - a gafodd eu sefydlu er mwyn dod â gwahanol gyrff ynghyd - yn gweithio'n dda, a'u bod yn brin o adnoddau a chymorth.

Mae 'na angen i newid agweddau arweinwyr ar draws cyrff cyhoeddus hefyd er mwyn gweithredu'r ddeddf yn llwyddiannus, meddai.

Mae'r adroddiad yn galw ar y llywodraeth nesaf i lansio adolygiad o'r ddeddf, gan gynnwys "deialog gyhoeddus ynglŷn â'r Gymru ry'm ni am ei weld ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".

Cyhoeddwyd adroddiad arall ddydd Mawrth hefyd gan Swyddfa Archwilio Cymru - sy'n dod i'r casgliad nad yw'r ddeddf yn "ysgogi'r newid system gyfan a fwriadwyd".

"Rydym yn gweld enghreifftiau da, ond rydym hefyd yn gweld achosion lle nad yw cyrff cyhoeddus wedi rhoi rhyw lawer o ystyriaeth benodol, os o gwbl, i'r ddeddf," meddai'r archwilydd.

Ffynhonnell y llun, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

Disgrifiad o'r llun, Mae'r adroddiad yn canmol cynllun GwyrddNi yng Ngwynedd, a drefnodd sawl cynulliad newid hinsawdd i glywed beth oedd cymunedau lleol am ei weld yn digwydd i warchod yr amgylchedd

Dywedodd Derek Walker fod Cymru "wedi arwain y ffordd dros y 10 mlynedd ddiwethaf gyda'n gweledigaeth ar y cyd ar gyfer Cymru sy'n amddiffyn cenedlaethau'r dyfodol".

"Ond nid ydym ar y trywydd iawn i gyrraedd ein nodau iechyd, hinsawdd a natur er mwyn sicrhau hynny," rhybuddiodd.

"Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn byw gyda chanlyniadau pob penderfyniad a wnawn i wella bywydau pobl, a chydag ymddiriedaeth mewn sefydliadau cyhoeddus yn dirywio, rhaid i ni wrando mwy, ymgysylltu'n ystyrlon â phryderon pobl, a'u cynnwys heb oedi."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "10 mlynedd o'r Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol wedi newid sut rydyn ni'n gweithio ac yn meddwl am ddatblygu cynaliadwy, a sut rydyn ni'n cyflawni dros bobl a'r blaned, nawr ac ar gyfer y dyfodol".

"Rydyn ni'n diolch i'r Comisiynydd a'r Archwilydd Cyffredinol am eu hadroddiadau, sy'n tynnu sylw at gyflawniadau fel cynnydd ar yr economi gylchol a mwy o ddefnydd o'r ddeddf, tra hefyd yn nodi meysydd sydd angen sylw brys," ychwanegodd.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i'r ddeddf ac yn adolygu'r argymhellion yn ofalus cyn ymateb yn ffurfiol."