Risg i gleifion yn bosib heb wella perfformiad y GIG 'ar frys'

Jeremy Miles
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jeremy Miles wedi derbyn y 29 o argymhellion naill ai yn eu cyfanrwydd neu'n rhannol

  • Cyhoeddwyd

Mae angen i berfformiad y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wella "ar frys" - yn enwedig mewn meysydd fel rhestrau aros, gwasanaethau canser a gofal brys - yn ôl panel o arbenigwyr annibynnol.

Mae'r panel yn rhybuddio, oni bai fod hynny'n digwydd fod yna "risg uchel" y gallai achosion o niwed i gleifion gynyddu a gwerth am arian y mae'r gwasanaeth yn ei gynnig i'r trethdalwyr ostwng.

Mae'r grŵp, gafodd ei sefydlu gan yr Ysgrifennydd Iechyd yn yr Hydref, hefyd yn galw am roi pwyslais newydd ar well arweinyddiaeth o fewn y gwasanaeth ac am gryfhau prosesau Llywodraeth Cymru i sicrhau atebolrwydd.

Mae Jeremy Miles wedi derbyn y 29 o argymhellion naill ai yn eu cyfanrwydd neu'n rhannol - ond mae'n cydnabod fod yr adroddiad yn cynnwys negeseuon anodd.

Syr David Sloman
Disgrifiad o’r llun,

Syr David Sloman ydy cadeirydd y grŵp wnaeth gynhyrchu'r adroddiad

Cafodd yr adroddiad, sy'n 68 o dudalennau o hyd, ei gynhyrchu gan grŵp o arbenigwyr, sydd gyda'i gilydd, a phrofiad helaeth o weithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac yn Lloegr.

Cadeirydd y grŵp yw Syr David Sloman - dreuliodd gyfnod yn brif swyddog gweithredu'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr ar ddiwedd gyrfa o 40 mlynedd ym maes iechyd.

Yn yr adroddiad mae Syr David yn rhybuddio fod Cymru yn "dechrau o sefyllfa heriol" - o ganlyniad i boblogaeth sy'n gymharol hen a sâl; anghydraddoldebau iechyd sy'n gwaethygu; rhestrau aros sy'n uchel iawn a sefyllfa ariannol heriol iawn.

Mae'n dweud fod hi'n amlwg fod angen i berfformiad mewn sawl maes wella "ar frys".

Ond mae'r adroddiad yn pwysleisio na ddylid mynd ati i ddatblygu strategaethau, polisïau neu dargedau newydd i geisio cyflawni hyn - ond yn hytrach dylid rhoi "pwyslais di-baid" ar wireddu ymrwymiadau presennol.

LlawdriniaethFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer y bobl ar restrau aros yng Nghymru wedi gostwng am dri mis yn olynol, yn ôl y ffigyrau diweddaraf

Mae'r canlynol yn themâu sy'n rhedeg drwy'r holl argymhellion:

  • Rhannu'r ffyrdd gorau o weithio a lleihau amrywiaeth rhwng byrddau iechyd;

  • Cryfhau lleisiau meddygol a chlinigol o fewn y gwasanaeth iechyd a Llywodraeth Cymru;

  • Byrddau iechyd i ymrwymo i fod yn fwy tryloyw ac i "wella yng ngolwg y cyhoedd";

  • Gwell atebolrwydd a mwy o systemau i reoli perfformiad;

  • Lleihau biwrocratiaeth;

  • Pwyslais ar ystod lai o dargedau;

  • Gwneud cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn amodol ar berfformiad.

Ward wag mewn ysbytyFfynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Syr David Sloman wrth BBC Cymru, petai byrddau iechyd yn dysgu mwy oddi wrth ei gilydd, y gallai hynny helpu i wella perfformiad.

"Mae system gofal iechyd Cymru wedi'i sefydlu i lwyddo, ac mewn llawer, llawer o leoedd mae hi," meddai.

"Ond y broblem yw, mae rhywle yn gwneud rhywbeth yn dda, ond nid popeth ym mhobman.

"A'r allwedd yw sut rydych chi'n cyffredinoli ac yn gwneud pawb yr un safon â'r gorau o ran perfformiad."

Systemau 'cymhleth a mwdlyd'

Blaenoriaeth arall, meddai, yw bod Llywodraeth Cymru yn cryfhau ei phrosesau o ddal y gwasanaeth i gyfrif - gan ddisgrifio'r systemau goruchwylio presennol yn "gymhleth" ac "aneglur".

"Rydym yn trafod yn yr adroddiad yr angen am fframwaith atebolrwydd llawer cliriach a miniog.

"Mae'n ymddangos bod pethau wedi mynd yn eithaf cymhleth, eithaf mwdlyd. Ac rwy'n credu y bydd egluro, a hogi hynny yn helpu mewn gwirionedd.

"Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod systemau eraill ledled y byd yn cael trafferth gyda hyn hefyd. Felly dyw hyn ddim yn sefyllfa unigryw."

Hefyd ddydd Mawrth, mae meddygon a nyrsys yng Nghymru wedi lansio deiseb ar y cyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi diwedd ar drin cleifion mewn coridorau ysbyty.

Mae undebau'r BMA a'r RCN yn gofyn i'r cyhoedd arwyddo'r ddeiseb, gan ddweud ei bod wedi cael ei "normaleiddio" i drin cleifion mewn "amgylchiadau diurddas".

Uned frysFfynhonnell y llun, Getty Images

Wrth groesawu adroddiad y panel arbenigol, mae'r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles yn cydnabod fod rhai canfyddiadau yn anodd i'w darllen.

"Roedd negeseuon anodd i'w clywed yn yr adroddiad... ond bob dydd mae miloedd o bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd sydd ag ymrwymiad llwyr i gleifion.

"Ac ar gyfer y cleifion a'r staff rydyn ni eisiau gweld gwasanaeth iechyd sy'n gweithredu o ran perfformiad ar y lefel uchaf posib ond y'n ni'n gwybod nad yw hynny wastad yn wir.

"Ond mae'r adroddiad yn nodi sgiliau, ymroddiad ac arferion da - felly mae yna neges optimistig yno hefyd o ran y llwybr i gyrraedd y nod."

'Dangos hyder yn ein hymrwymiad'

Ond mae'r ysgrifennydd Iechyd yn gwrthod yr awgrym fod penodi panel allanol i gynnig "persbectif ffres" ar welliannau yn gyfaddefiad fod ei lywodraeth wedi rhedeg mas o syniadau ar ôl 26 mlynedd o fod yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd.

"Pa fath o lywodraeth sydd yn gwrthod bod yn agored i gyngor gan bobl sy'n arbenigwyr yn eu meysydd ar sut i wella'r hyn y'n ni'n ceisio ei gyflawni?

"Mae hyn yn dangos hyder yn ein hymrwymiad ni i'r flaenoriaeth o wella profiadau cleifion a gwella'u mynediad nhw i ofal cyflym," meddai.

Yn y cyfamser, mae'r panel arbenigol yn nodi y dylai gwelliant sylweddol fod yn bosibl yn y gwasanaeth iechyd yma, oherwydd y ffordd y mae wedi'i strwythuro a rhai o'r syniadau sy'n sail i bolisi iechyd yng Nghymru.

Yn hynny o beth, mae'r adroddiad yn dadlau y "dylai Cymru anelu at gael y system gofal iechyd mwyaf blaenllaw yn y byd."

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor bod yr adroddiad yn "bryder - ond nid yn syndod".

"Mae'r dystiolaeth bod y GIG wedi colli ei ffordd yn llwyr, ar ôl 25 mlynedd o Lafur, yn amlwg i bawb i weld," meddai.

Ychwanegodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, James Davies, bod yr adroddiad yn ei gwneud yn amlwg, "dan Lafur, mae GIG Cymru wedi torri".