Stori Fleur

Crynodeb o’r ffilm

Mae Fleur wedi bod yn chwarae pêl-droed ers yn ifanc iawn, ac mae’r pwysau sydd arni i sgorio goliau a pherfformio’n dda yn drwm ar ei hysgwyddau. A ddylai hi wneud beth mae pawb yn disgwyl iddi ei wneud? Neu a ddylai hi egluro sut mae’n teimlo i bawb?

Nodiadau athrawon

Syniadau ar gyfer y dosbarth:

  • Sut i ddelio gyda phwysau? Gellir gofyn i ddisgyblion weithio mewn grwpiau neu barau i feddwl am sefyllfaoedd neu weithgareddau sy’n gwneud iddyn nhw deimlo dan bwysau. Yna, gellir gofyn iddyn nhw drafod sut gallan nhw leihau’r teimlad o bwysau drwy feddwl am gyngor.

I gloi, gallai’r disgyblion greu posteri o’r hyn sy’n gwneud iddyn nhw deimlo dan bwysau ee pêl-droed a gellir defnyddio geiriau a lluniau o’i amgylch sy’n cyfleu sut mae modd lleihau’r pwysau ee bod yn hyderus i drafod pryderon.

  • Effaith gorbryder ar y corff – I ddechrau, gellir cynnal trafodaeth lefel ddosbarth ar y pwnc ‘gorbryder’ er mwyn datblygu dealltwriaeth am y pwnc.

Beth yw gorbryder? Pwy mae gorbryder yn effeithio arno? Sut mae delio gyda gorbryder?

Yna, gellir annog y disgyblion i greu amlinelliad o’r corff ar ddarn mawr o bapur a gofyn iddyn nhw labelu’r corff gydag effaith gorbryder ar y corff ee dwylo chwyslyd, cyhyrau yn dynn, bola yn troi a llygaid blinedig.

  • Gyda phartner neu mewn grwpiau bach, gellir gofyn i ddisgyblion newid teimladau negyddol i mewn i rai positif, naill ai ar gyfer cymeriad Fleur neu ar gyfer eu bywydau eu hunain ee

    • Dydw i ddim yn mynd i sgorio gôl / Dwi’n mynd i gicio’r bêl yn gryf i mewn i gefn y rhwyd!
    • Galla i ddim â chwblhau’r tasg fathemateg / Dwi’n mynd i wneud fy ngorau i gwblhau’r dasg fathemateg
    • Dydy Math a Kate ddim eisiau chwarae gyda fi / Mae Math ac Elis yn brysur yn chwarae gêm arall, galla i chwarae gyda Dylan yn lle

Unwaith y byddan nhw wedi gwneud tua 10 pâr, gallan nhw gymysgu’r parau fyny a’i roi i grŵp arall geisio cyfateb y parau cywir.

Syniadau ar gyfer Ieithoedd, llefaredd a chyfathrebu:

  • Help llaw – Mae’r bardd yn trafod yn y gerdd ei bod hi’n hawdd mynd i boeni ee “Beth bynnag sy’n dy boeni, mae ‘na rywun all dy helpu” a “Mae hi’n hawdd mynd i boeni, ond beth os fydd popeth yn iawn?”. Gellir darparu senarios gwahanol i ddisgyblion sy’n achosi person i boeni, a gofyn iddyn nhw drafod gyda phartner pa fath o gyngor fydden nhw’n ei roi i’r person hwnnw.

Gellir annog y disgyblion ddefnyddio dulliau creadigol i’w helpu gyda’r gweithgaredd ee creu mapiau meddwl, posteri, lluniau er mwyn cyfleu’r cyngor maen nhw’n ei ddewis er mwyn arddangos eu gwaith yn y dosbarth o dan y teitl ‘ Help llaw’.

  • Hunllefau – Mae’r ffilm yn trafod bod Fleur yn cael hunllefau am ei bod hi’n poeni am y pwysau sydd arni i chwarae pêl-droed. Gellir gofyn i’r disgyblion feddwl am hunllefau maen nhw wedi eu cael, neu feddwl am rai newydd, ac ysgrifennu llythyr anffurfiol at ffrind yn esbonio’r hunllef. Fel rhan o’r dasg, gellir eu hannog i ddefnyddio’r nodweddion arddull isod:

    • Cyflythrennu ee roedd y gôl yn goleuo fel goleudy o fy mlaen
    • Iaith liwgar gan ddefnyddio disgrifiadau ee gwelais fy nhad yn gweiddi nerth ei ben pan fethais y gôl a newidiodd lliw ei wyneb i goch llachar
    • Defnyddio’r synhwyrau i gyfleu teimladau ee teimlais ias yn mynd i lawr fy nghefn

Deilliannau dysgu a nodiadau am y cwricwlwm

  • Deall beth yw teimlo dan bwysau
  • Dysgu sut i ofni methiant a gadael pobl i lawr
  • Dysgu mwy am deimlo’n unig a rhannu pryderon
  • Datblygu dealltwriaeth am symptomau corfforol o orbryder/poeni/teimlo dan bwysau

Maes Dysgu a Phrofiad – Iechyd a Lles

Mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddyn nhw yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.

Cam Cynnydd 3

  • Rwy’n gallu hunanreoleiddio fy emosiynau mewn ffordd ddiogel gan ddefnyddio strategaethau rwyf wedi eu datblygu.

  • Rwy’n gallu gweld manteision cyfathrebu am deimladau fel un o’r ystod o strategaethau sy’n gallu bod o gymorth i hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol a lles emosiynol.

Mae’r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau eraill.

Cam Cynnydd 3

  • Rwy’n gallu adnabod y bydd rhai penderfyniadau rwy’n eu gwneud yn cael effaith hirdymor ar fy mywyd ac ar fywydau pobl eraill.

  • Rwy’n gallu deall y gall penderfyniadau gael eu gwneud yn unigol ac ar y cyd, ac y gall ystod o ffactorau ddylanwadu arnyn nhw.

Maes Dysgu a Phrofiad – Y Celfyddydau Mynegiannol

Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a’r dychymyg.

Cam Cynnydd 2

  • Rwy’n gallu creu fy nyluniadau fy hun, ac rwy’n gallu gweithio ar y cyd gydag eraill i ddatblygu syniadau creadigol.

Maes Dysgu a Phrofiad – Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Mae mynegi eich hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.

Cam Cynnydd 1

  • Rwy’n gallu cyfathrebu gan wneud marciau, darlunio symbolau neu ysgrifennu llythrennau a geiriau mewn amrywiaeth o gyd-destunau.

Cam Cynnydd 3

  • Rwy’n gallu addasu a thrin iaith a gwneud dewisiadau priodol ynghylch geirfa, iaith idiomatig a chystrawen er mwyn mynegi fy hun yn rhugl ac eglur.
Back to top

Ble nesa?

Stori Geth. video

Pan mae capten y tîm pêl-droed yn cynnig diod a allai wella ei berfformiad i Geth, mae'n ei dderbyn yn syth. Er nad yw'n hoff o'r ddiod, mae'n prynu mwy a mwy i ffitio i mewn, nes bod pethau'n ffrwydro.

Stori Geth

Stori Llio. video

Mae Llio yn ofalwr ifanc i'w thad, heb lawer o amser i'w hun. A fydd Llio yn penderfynu derbyn cymorth?

Stori Llio

Stori Tegan. video

Mae Tegan yn cau ei hun allan o'r byd go iawn, ac yn cael cysur o chwarae gemau cyfrifiadurol yn ei hystafell wely. A fydd hi'n dod o hyd i gryfder i gamu allan o'r byd digidol?

Stori Tegan
Back to top