Tadau newydd - eich canllaw i iechyd meddwl da

Mae bod yn dad yn gallu sbarduno amrywiaeth eang o emosiynau – o lawenydd mawr i ofn llwyr a phopeth yn y canol.

Ychwanegwch ddiffyg cwsg, tarfu ar drefn, a newidiadau hormonaidd (oes, mae gan dadau hormonau hefyd) ac nid yw’n anarferol teimlo’n hollol ddi-glem.

Yn wir, mae astudiaethau’n dangos bod tua un o bob 10 o ddynion yn cael salwch meddwl yn y chwe mis cyntaf ar ôl i’r babi gyrraedd, gyda thadau tro cyntaf a thadau iau yn arbennig o agored i hynny. Ac er bod ymwybyddiaeth yn cynyddu, gall lles tadau gael ei wthio i’r ochr, meddai’r arbenigwr iechyd meddwl, Raoul Lindsay.

“Pan fydd y babi’n cael ei eni, mae’r sylw ar y fam wrth gwrs ac mae’r tad rywle yn y cefndir. Ond mae angen cefnogaeth arnoch chithau hefyd.”

Rydyn ni eisiau tynnu sylw at y newid byd sy'n dod yn sgil bod yn dad a chynnig cyngor ar gyfer lles tadau newydd. Dyma saith peth i'w cadw mewn cof i helpu i gadw golwg ar eich iechyd meddwl…

Mae bod yn dad newydd yn gallu bod yn llethol ond mae pethau syml fel siarad â thadau eraill yn gallu eich helpu i lywio'r heriau.

1. Byddwch yn garedig i'ch hun

Mae tadau newydd yn rhoi llawer o bwysau arnyn nhw eu hunain, meddai Raoul. “Un peth sy'n codi lawer yn fy ngwaith ydy'r gred fod angen set newydd o sgiliau i fod yn dad llwyddiannus, tra bo gan famau reddf famol naturiol.”

Mewn gwirionedd, dydy bod yn rhiant ddim yn hawdd i neb.

Byddai’n dda gen i pe bai tadau newydd yn gwybod nad oes mo'r fath beth â Siwpyr-Dad.

"Un peth y byddaf yn ei ddweud wrth dadau fel rhan o’r broses ydy bod yn ymarferol a chael sbort gyda’ch babi. Symudwch draw o feddwl bod rhaid i chi fod yn heliwr-gasglwr rhesymegol a’r fam yn rhiant sy’n meithrin. Dylech ymddiried yn eich greddf hefyd; iawn, cymerwch wybodaeth a chyngor gan bobl eraill wrth gwrs, ond yn anad dim, dylech ymddiried yn eich barn eich hun.”

2. Cysylltwch a chyfathrebwch gyda’ch partner

Mae cyfathrebu’n dda gyda’ch partner yn ffordd bwysig o deimlo’n fwy pwyllog a hyderus am eich sgiliau magu.

“Mae’n arbennig o bwysig yn y cyfnodau cynnar. Rhannu dyletswyddau fel bwydo yn y nos, cynllunio pethau gymaint â phosibl, cydnabod bod angen i'r ddau ohonoch orffwys. Mae’n golygu siarad gyda nhw am beth sy'n digwydd, a meddwl yn ymarferol gyda’ch gilydd am beth y gallwch ei wneud,” meddai Raoul.

Cysylltwch, gwrandewch, gofynnwch gwestiynau a chael gwybod beth sydd ei angen ar y llall, ychwanega Raoul.

“Eich partner yw’r person rydych yn gallu ymddiried ynddynt ac rydych chi’n teimlo’n fwyaf cyfforddus yn eu cwmni, felly mewn egwyddor, ni ddylai hyn fod yn anodd. Ond weithiau rydyn ni’n dyfalu beth sydd ei angen ar ein partneriaid heb gael gwybod yn iawn ganddyn nhw. Gallwch wneud popeth posibl i helpu eich gilydd i deimlo’n well, ond nes i chi ofyn i’ch gilydd, mater o ddyfalu yw hi, a gall hyn arwain at fwy fyth o bryderon am fethu â’u cefnogi neu fod yn rhiant da.”

3. Gwneud pethau sy’n eich helpu i deimlo’n bwyllog

Mae’n swnio’n amhosibl pan nad oes brin ddigon o amser i anadlu, ond mae Raoul yn eich cynghori i sefydlu trefn newydd sy’n eich helpu i gadw ymdeimlad o dawelwch.

“Meddyliwch beth oedd yn eich helpu i ymlacio a theimlo’n bwyllog cyn i chi gael babi, a gweld a allwch chi a’ch partner gael ffyrdd o gynnwys hynny yn eich bywyd newydd mewn rhyw ffordd.”

Does dim pwynt rhoi cynnig ar bethau nad oeddech chi’n eu gwneud o’r blaen dim ond am eich bod chi’n meddwl y gallen nhw helpu, fel garddio neu ddarllen, er enghraifft.

“Os ydych chi eisiau treulio rhywfaint o amser yn chwarae gemau cyfrifiadurol, does dim byd o’i le ar hynny. Efallai mai iechyd a ffitrwydd sy’n eich diddori chi ac rydych yn teimlo'n sensitif am eich corff ac y gallwch gynnwys ymweliad â’r gampfa neu fynd i redeg. Gwnewch beth bynnag sy’n eich helpu chi.”

Tad yn rhoi cusan i'w fabi
Image caption,
Mae’n bwysig ymddiried yn eich greddf a chau allan y pwysau allanol.

4. Sgwrsio â thadau newydd eraill

Peidiwch â diystyru'r pŵer o siarad â phobl sydd yn yr union sefyllfa â chi, meddai Raoul.

“Byddwch chi’n synnu pa mor ddefnyddiol ydy agor eich llygaid i’r hyn sydd ei angen arnoch. Roedd yn bwysig i mi pan ddes i’n dad am y tro cyntaf. Mae’r cyfle i sgwrsio â thadau newydd eraill sy'n gwybod beth rydych chi'n mynd drwyddo, i gyfnewid awgrymiadau a threfnu pethau cymdeithasol, fel mynd am dro gyda’ch gilydd pan fyddwch chi’n teimlo'n gysurus, mor werthfawr.”

5. Cofiwch y daw pethau'n haws

“Yn ystod y dyddiau cynnar o fod yn dad newydd, efallai y byddwch hiraethu am eich bywyd cyn i chi fod yn dad,” meddai Raoul.

“Felly, mae’n bwysig cofio nad ydy’r anawsterau’n para, byddwch yn dychwelyd i ymdeimlad o ‘normalrwydd’ beth bynnag oedd hynny – cysgu’n well, cyfnodau tawelach gyda’ch partner, mwy o amser i weld ffrindiau a theulu ac ati.”

Arf cadarnhaol iawn yw cydnabod na fydd pethau, gydag amser a phrofiad, yn ymddangos mor heriol.
Tad yn rhoi cusan i'w fabi
Image caption,
Mae’n bwysig ymddiried yn eich greddf a chau allan y pwysau allanol.

6. Byddwch yn ymwybodol o’ch hwyliau

Mae’r rhan fwyaf o dadau newydd yn teimlo’n isel ar ryw adeg, ond os yw’r teimladau hyn yn para am gyfnod hir, gallai hynny fod yn arwydd o iselder.

“Mae rhai pryderon yn naturiol, er enghraifft, sut un fyddwch chi fel tad, neu faterion trefnu fel absenoldeb tadolaeth,” eglura Raoul. “Yr hyn sy’n bwysig yw sylweddoli pryd bydd y pryder yn parhau’n rhy hir, neu pryd fydd yn effeithio’n ormodol. Er enghraifft, efallai y byddwch yn profi effeithiau corfforol fel pyliau o banig neu fethu â dychwelyd i gyflwr rheolaidd, pwyllog. Efallai y byddwch yn sylwi bod eich arferion bwyta’n newid fel eich bod yn bwyta mwy neu lai nag arfer, neu fod eich patrymau cysgu’n newid.”

Mae iselder yn brofiad gwahanol i bawb.

Felly, mae’n bwysig iawn cadw golwg manwl arnoch eich hun a sylweddoli os bydd rhywbeth yn anarferol i chi.

“Pethau fel encilio’n gymdeithasol, os nad ydych chi’n cael pleser o’r gweithgareddau roeddech chi’n arfer eu mwynhau neu os nad ydych yn dymuno eu gwneud o gwbl, neu os ydych chi’n poeni am bethau nad oeddech chi’n poeni amdanyn nhw o’r blaen,” meddai Raoul.

Darllenwch ganllaw’r GIG ar iselder.

7. Siaradwch gyda rhywun y gallwch ymddiried ynddo

Os ydych chi’n teimlo'n isel drwy'r amser, peidiwch â bod ofn rhannu sut rydych chi’n teimlo.Does dim ots gyda phwy rydych chi'n siarad, dim ond eich bod yn gallu ymddiried ynddyn nhw a’u bod yn barod i wrando, meddai Raoul.

“Mae dechrau’r sgwrs hon yn anodd iawn, felly cymerwch gamau bach. Does dim rhaid iddi deimlo fel sgwrs fawr. Efallai nad yw’n fater o ofyn am help – efallai dim ond rhoi gwybod i rywun am rywbeth sy’n digwydd ar hyn o bryd.”

Rhagor o wybodaeth

Ble nesaf?