Mae profiad pob mam newydd yn wahanol, ond un peth sy'n sicr yw bod yr ychydig ddiwrnodau ac wythnosau cyntaf gyda’ch babi yn heriol.
Does neb yn hwylio drwy'r wythnos gyntaf yn ddidrafferth – beth bynnag maen nhw’n ei honni ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Efallai fod gennych chi ddisgwyliadau o ran sut rydych chi’n mynd i fod, ond rhaid i chi fod yn realistig,” meddai Maggie Fisher, ymwelydd iechyd arbenigol a Swyddog Datblygu Proffesiynol yn y Sefydliad Ymweliadau Iechyd.
“Does dim byd yn gallu eich paratoi chi’n llwyr ar gyfer y cyfnod hwn neu ar gyfer y teimladau y byddwch chi’n eu profi, felly byddwch yn garedig tuag atoch eich hun. A pheidiwch â gwrthod unrhyw gymorth sy'n cael ei gynnig, cofiwch y bydd pethau'n setlo. Yn y chwe wythnos gyntaf, mater o ymdopi yw hi.”
Dyma gyngor gan Maggie ar oroesi'r ychydig ddiwrnodau ac wythnosau cyntaf, ynghyd ag ambell berl o ddoethineb gan gymuned Plant Bach Hapus.

Eich corff
Mae’n hanfodol rhoi amser i chi ddod atoch eich hun - mae eich corff wedi cael profiad corfforol rhyfeddol.
“Mae’n debyg fod gennych fol blonegog, marciau ymestyn, efallai fod eich niplau’n ddolurus, eich perinëwm yn ddolurus, efallai fod gennych boen yn eich cefn, efallai eich bod yn gollwng llaeth, efallai fod gennych glwyf y marchogion, efallai eich bod yn dioddef gollyngiadau a rhedlifoedd,” meddai Maggie.
“Mae’n hollol normal i deimlo nad ydych yn ddeniadol a’ch bod yn cael eich llethu, yn enwedig os oedd yr esgor yn anodd,” esbonia Maggie.
Ond peidiwch â dioddef symptomau'n dawel – cofiwch nad oes yr un cwestiwn yn rhy wirion nac yn destun embaras i’ch bydwraig, ymwelydd iechyd neu feddyg teulu. Dyma realiti bod yn fam, felly peidiwch ag ofni dweud, meddai Maggie.
Gwnewch bethau’n araf, bwytewch yn iach a chysgwch pan allwch.
“Mae’n bwysig hefyd eich bod yn gwneud ymarferion llawr y pelfis mor rheolaidd â phosibl - pryd bynnag y gallwch, megis pan fyddwch yn eistedd ac yn bwydo eich babi. Peidiwch â mynd yn ôl i wneud ymarfer corff yn rhy gyflym, yn enwedig os ydych chi wedi cael toriad Cesaraidd, oherwydd bydd mwy o risg o gael anaf. Mae ymarfer corff ysgafn yn bwysig.”
Cyngor gan famau Plant Bach Hapus
- “Defnyddiwch y padiau mamolaeth mwyaf o ran maint a'r rhai mwyaf cyfforddus… a phrynwch lawer ohonyn nhw!”
- "Cewch afael ar becynnau iâ, clustog bwydo o'r fron ac ibwproffen os oes angen."
- “Peidiwch â chymharu eich hun â ffrindiau neu enwogion sy’n ymddangos fel pe baen nhw wedi mynd i lawr saith maint dillad dridiau ar ôl geni – dydy hynny ddim yn realistig!”
- “Byddwch yn garedig tuag atoch eich hun. Mae’n anodd, ond gallwch chi ddod drwyddi. Gorffwyswch a chysgwch pan allwch chi, a mwynhau amser cael cwtsh.”
- “Ceisiwch gael byrbrydau iachus, di ffwdan wrth law, fel ffrwythau a bariau grawnfwyd. A rhowch eich diodydd poeth mewn mwg wedi'i inswleiddio fel nad ydyn nhw'n oeri’n rhy sydyn.”
Eich meddwl
“Mae’n naturiol i chi deimlo’n isel weithiau, ond os ydy'r teimladau'n digwydd yn aml, mae angen i chi siarad gyda rhywun,” meddai Maggie. “Dyma arwyddion rhybudd i gadw llygad amdanynt: teimlo’n isel neu’n bryderus yn barhaus, newidiadau yn eich archwaeth a’ch cwsg, meddyliau ymwthiol, crio, diffyg mwynhad yn y pethau rydych chi’n eu mwynhau fel arfer."
"Mae’n anodd iawn cyfaddef pa mor anodd yw magu plant a bod angen help arnoch. Mae’n siŵr eich bod eisiau ymddangos yn ddewr. Ond fy neges bob amser ydy ei bod yn iawn peidio â bod yn iawn.”
A chofiwch fod meithrin perthynas gyda’ch babi yn gallu cymryd amser hir, ychwanega Maggie “Dydy llawer o famau ddim bob amser yn syrthio mewn cariad â’u babi ar unwaith, ac mae’n gallu teimlo fel methiant mawr. Mae’n bwysig iawn peidio â dioddef yn dawel. Codwch y ffôn, siaradwch â ni, dywedwch wrthym os ydych chi’n cael trafferth.”
Gall camau bach a chadarnhaol bob dydd fod o gymorth mawr.
“Mae apiau da iawn ar gael i roi hwb bach i chi, fel yr un gan Action for Happiness. Rhowch gynnig ar yoga ysgafn, meddylgarwch a cherdded bob dydd yn yr awyr iach – mae’n ymarfer corff gwych a gallwch gwrdd â mamau eraill yn yr awyr agored,” meddai Maggie.
“Mae’n bwysig cysylltu â mamau eraill, boed hynny mewn bywyd go iawn, ar fforwm ar-lein, grwpiau WhatsApp neu alwadau Zoom. Mae’n gysur clywed eu profiadau. Gall hefyd helpu i leihau ynysigrwydd cymdeithasol a normaleiddio’r hyn rydych chi’n ei deimlo."
"Dydy llawer ohonom ddim yn sylweddoli bod pobl eraill yn teimlo’r un fath, yn enwedig o ran iechyd meddwl, nes byddwn ni’n bod yn onest."
"Mae clywed mam arall yn dweud ‘mae’n ofnadwy, ond bydd pethau’n gwella’ yn gallu gwneud byd o wahaniaeth.”
Cyngor gan famau Plant Bach Hapus
- "Cofiwch y bydd pethau'n gwella. Chewch chi byth yr wythnos gyntaf yn ôl, pan maen nhw’n gwneud dim byd ond cysgu, swatio ac arogli fel babi newydd-anedig, felly ceisiwch fwynhau'r cyfnod. Byddwch yn barod i gysgu yn ystod y dydd, gwisgo pyjamas, bwyta tecawê a chynnwys ambell ffrwyth bob hyn a hyn.”
- “Wrap cario babi. Fe fyddwch chi eisiau defnyddio’r tŷ bach, bwyta neu frwsio eich gwallt o bryd i'w gilydd.”
- “Gostyngwch eich safonau. Mae’n iawn i beidio â hwfro."
- "Anadlwch a chario ymlaen tan y bore. A gwyliwch rywbeth da ar y teledu neu dabled!”
- "Neilltuwch amser i gael cawod, mae’n eich cadw’n effro ac yn gwneud i chi deimlo fwy fel person go iawn.”
Eich perthnasoedd agos
Does dim gwadu bod babi’n cyrraedd yn effeithio’n fawr ar eich perthnasoedd agosaf.
“Mae mwy o wrthdaro rhwng cyplau yn y flwyddyn ar ôl cael babi. Problemau cyffredin yw tasgau’r cartref, arian a rhyw, sef y peth olaf ar feddwl unrhyw fam newydd,” eglura Maggie. “Mae angen i chi barhau i gyfathrebu, bod yn onest a chefnogi eich gilydd. Dydy hyn ddim yn gyfnod hawdd i'r un ohonoch ac efallai eich bod yn hiraethu am eich bywydau blaenorol. Mae angen i'ch partner wybod nad ydych yn eu gwrthod tra rydych yn canolbwyntio ar ddod atoch eich hun a sefydlu perthynas gyda’ch babi. Yr hyn rydw i'n ei ddweud wrth unrhyw bartneriaid ydy: canolbwyntiwch ar wneud i Mam deimlo’n dda amdani ei hun.
Mae hwn yn sicr yn gyfnod pan fydd angen cymorth a chefnogaeth ychwanegol arnoch, yn enwedig os ydych chi’n rhiant unigol. Ond er bod cynghorion gan bobl eraill yn gallu bod yn garedig, gallant fod yn fusneslyd.
Felly dywedwch yn glir pa fath o help sydd ei angen arnoch, meddai Maggie. “Peidiwch â bod ofn gofyn am yr hyn sydd ei angen arnoch, fel siopa, smwddio, coginio, golchi dillad, neu fynd â’ch babi allan am awr neu ddwy er mwyn i chi gael gorwedd.”
“Pan fyddwch chi’n teimlo’n arbennig o flinedig a sensitif, mae’n anodd i bobl ddweud wrthych chi beth mae angen i chi fod yn ei wneud. Efallai y byddwch yn meddwl eu bod yn eich beirniadu."
"Ond gwrandewch ar eich greddf, chi ydy'r arbenigwr, chi sy'n adnabod eich babi orau. Mae pob un yn unigryw, mae pob un yn unigolyn."
"Ceisiwch fod yn bendant, d'wedwch “dyma dw i wedi ei weld” a gofynnwch i’ch partner gyfeirio unrhyw gyngor diangen draw oddi wrthoch.”
Cyngor gan famau Plant Bach Hapus
- “Penderfynwch pwy y byddwch am ei holi pan fydd angen cymorth arnoch. Mae partneriaid yn wych ond pan fydd y ddau ohonoch heb gael cwsg, mae’n hanfodol cael pâr ychwanegol o ddwylo i ddal y babi neu i goginio pryd o fwyd i’r ddau ohonoch.”
- “Caewch y drws. Os nad ydych chi’n barod i dderbyn ymwelwyr, dywedwch neu fe fyddwch chi’n cael llif cyson o ymwelwyr a byddwch yn teimlo eich bod chi’n cael eich llethu.”
- “Gofynnwch i ymwelwyr ddod â phrydau o fwyd cartref, yn hytrach na blodau. Mae blodau yn rhywbeth ychwanegol i ddelio â nhw pan nad oes gennych chi brin ddigon o amser i fynd i’r tŷ bach.”
Rhagor o wybodaeth
- Mae gan BBC Action Line (cynnwys Saesneg) fanylion sefydliadau sy'n gallu helpu i'ch cefnogi.
