Oedi datblygiadol oherwydd anghenion addysgol arbennig ac anabledd, ac anghenion lleferydd ac iaith: Dysgu am eich plentyn a dod o hyd i ffyrdd o gyfathrebu

Mae pob plentyn yn wahanol. Ac felly, bydd y ffordd rydych chi’n cyfathrebu â’ch plentyn yr un mor unigryw a phersonol â’ch plentyn.

Mae hyn yn arbennig o wir os oes gan eich plentyn anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu.

“Fel rhiant, efallai eich bod chi’n teimlo colled os nad yw'ch plentyn wedi cyrraedd lle’r oeddech chi’n gobeithio a ddim yn siarad erbyn oedran penodol,” medd Alys Mathers, Therapydd Tra-arbenigol ym maes Lleferydd ac Iaith sy’n gweithio gyda phlant ag ystod eang o anghenion.

“Ac efallai byddwch chi hefyd yn gweld eich hun yn cymharu’ch plentyn chi â phlant eraill o’r un oed. Er bod hynny’n gwbl normal, bydd yn anodd i chi. Yn hytrach na hynny, byddwn i’n awgrymu canolbwyntio ar eich plentyn chi, dod o hyd i’ch ffyrdd eich hunain o gyfathrebu â’ch gilydd, a dathlu pob llwyddiant.”

Mae gan Alys lawer o gyngor ymarferol ar sut gallwch chi gefnogi'ch plentyn a’i helpu i ddatblygu ei sgiliau cyfathrebu…

Dad a phlentyn yn chwarae yn yr ardd
Image caption,
Canolbwyntiwch ar eich plentyn chi, a dewch o hyd i’ch ffyrdd eich hun o gyfathrebu.

1. Dilyn arweiniad eich plentyn

Mae gwylio’ch plentyn i weld sut mae’n ceisio cyfathrebu â chi yn lle da i gychwyn.

“Mae plant yn dechrau cyfathrebu â chi mewn llawer o wahanol ffyrdd,” medd Alys. “Efallai bydd rhai plant yn dangos beth maen nhw eisiau drwy edrych ar rywbeth penodol, efallai bydd plant eraill yn pwyntio. Bydd rhai yn chwarae gyda synau drwy barablu. Bydd rhai plant yn hoffi pan fyddwch chi’n gwneud ystumiau wrth ganu, a fydd gan eraill ddim diddordeb. Neu efallai bydd eich plentyn yn edrych arnoch chi pan fydd yn barod i gael rhagor o wybodaeth neu eisiau rhywbeth gennych chi. Mae hyn yn cael ei arwain gan y plentyn i raddau helaeth, felly mae’n fater o sylwi ar sut mae'ch plentyn eisiau cyfathrebu gyda chi’n naturiol, ac wedyn ymateb i hynny.”

2. Cael hwyl

Mae llawer o waith ymchwil yn dangos bod plant yn dysgu drwy chwarae. Mae hynny’n newyddion gwych i chi a’ch plentyn. “Chwarae yw’r ffordd orau i’ch plentyn ddysgu," medd Alys.

Felly, fy mhrif gyngor i fyddai cadw pethau’n ysgafn ac yn hwyliog.

“Mae llai o bwysau o wneud hynny, ac mae’n eich helpu i greu cwlwm. Mae hyd yn oed chwarae tag yn ffordd o gyfathrebu, oherwydd mae’n rhaid cymryd tro.”

Os yw’ch plentyn chi’n mwynhau gweithgareddau chwarae blêr, neu fodio a byseddu gweadau gallwch ddefnyddio hynny hefyd fel cyfle i gyfathrebu. Yn ôl Alys: “Os yw’ch plentyn yn mwynhau lliwio neu beintio gyda bysedd, siaradwch am y llun mae’n ei wneud. A daliwch ati tan y diwedd, hyd yn oed os yw'ch plentyn eisiau gwneud y gweithgaredd dro ar ôl tro. Gwnewch yn siŵr nad chi sy’n stopio canolbwyntio’n gyntaf.”

3. Defnyddio symudiadau

Os yw’ch plentyn yn cael trafferth gyda synau neu ei glyw, mae defnyddio ystumiau a symudiadau’n ffordd wych o gyfathrebu.

“Dechreuwch gyda beth sy’n dod yn naturiol, fel nodio neu ysgwyd eich pen," medd Alys. “Gallwch hefyd wneud rhywfaint o arwyddion Makaton syml. Mae rhai rhieni’n gweld hyn yn anodd iawn i ddechrau, felly dechreuwch gydag ychydig o arwyddion fel bwyta, cysgu ac yfed. Gallwch hefyd wylio’r symudiadau mae’ch plentyn yn eu gwneud, a meddwl hefyd am unrhyw arwyddion a fyddai’n ddefnyddiol iddo. Os yw’n gofyn am ei dedi drwy’r amser, ond nad yw’n gofyn mewn ffordd glir, helpwch eich plentyn i ddod o hyd i arwydd ar gyfer hynny.”

Mam a phlentyn yn gwneud yr un weithred â'u dwylo.
Image caption,
Mae defnyddio symudiadau’n ffordd wych o gyfathrebu.

4. Meddwl am y ffordd rydych chi’n cyfathrebu

Nid eich plentyn yw’r unig un sy’n dysgu sut i gyfathrebu. Gallwch chi wneud llawer o newidiadau bach i’ch iaith a’ch lleferydd eich hun, a fydd yn helpu.

“Un peth i roi cynnig arno yw defnyddio brawddegau byrrach, a rhannu beth rydych chi’n ei ddweud yn ddarnau llai, sy’n eu gwneud yn haws eu deall,” medd Alys.

Mae hi’n argymell plygu i lawr at lefel eich plentyn, er mwyn i'ch plentyn allu gweld eich wyneb. Ond ceisiwch beidio â siarad yn rhy araf. “Un ffordd o ddysgu seiniau newydd yw gwylio sut mae pobl eraill yn defnyddio eu ceg i wneud y sŵn. Mae gor-ynganu geiriau neu siarad yn rhy araf yn newid y ffordd mae’ch ceg a’ch gwefusau’n ffurfio’r gair hwnnw.”

5. Dal i ganolbwyntio

O deledu i deganau, mae llawer o bethau sy’n tynnu sylw yn y cartref.

Mae’n gwbl allweddol eich bod chi’n rhoi sylw i’ch plentyn.

“Rhowch eich ffôn i lawr, a diffoddwch sŵn cefndir pan fyddwch chi’n cyfathrebu â’ch plentyn. Dydych chi ddim eisiau i rywbeth arall dynnu sylw’ch plentyn (na'ch sylw chi!). Bydd rhoi’ch holl sylw yn helpu’ch plentyn i sylwi ar eich arferion da, ac i ddysgu sut i hoelio ei sylw ei hun.”

Yn ogystal â hynny, bydd hefyd yn haws i chi sylwi ar arwyddion di-eiriau eich plentyn, fel pwyntio a gwahanol fynegiant ar ei wyneb.

Teulu yn eistedd ar soffa yn clapio.
Image caption,
Mae canolbwyntio ar eich plentyn a rhoi sylw iddo yn bwysig dros ben.

6. Gwneud sylwadau yn lle gofyn cwestiynau

Efallai bydd eich plentyn yn teimlo o dan bwysau os byddwch chi’n gofyn llawer o gwestiynau.

Yn ôl Alys: “Pan fyddwch chi’n chwarae gyda’ch gilydd, ceisiwch wneud sylwadau yn hytrach na gofyn cwestiynau. Mae hyn yn ffordd arall o ddilyn arweiniad eich plentyn. Yn hytrach na gofyn, ‘Beth wyt ti’n ei wneud?’, gallech chi ddweud, ‘Rwyt ti'n gwneud tŷ, ac mae’r fricsen yna’n mynd ar y top.’ Os ydych chi’n gweld eich hun yn gofyn cwestiwn, atebwch y cwestiwn ar unwaith. Os ydych chi’n dweud, ‘Beth yw hwnna?’, atebwch drwy ddweud ‘bricsen yw hwnna’. Mae cwestiwn yn brawf, ond mae sylwadau’n gyfle i ddysgu.”

7. Dathlu pob llwyddiant

Boed yn symudiad newydd neu'n sŵn newydd, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n canmol eich plentyn. Yn ôl Alys: “Os oes gan eich plentyn anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, mae hynny’n cynnwys ystod eang iawn o bethau. Efallai ei fod yn cael trafferth gyda synau. Neu ddeall neu ddysgu geiriau.”

Felly pan fydd eich plentyn yn dysgu sŵn, symudiad neu ffordd newydd o gyfathrebu, dathlwch hynny!

“Mae’n wych sylwi ar bob llwyddiant, ac mae’n braf iawn i’ch plentyn gael cydnabyddiaeth o’r hyn mae wedi’i ddysgu.”

Ble nesaf?