Adroddiad Blynddol y BBC: BBC Yng Nghymru Yn Dod I'r Brig O Ran Ansawdd A Chynnwys Unigryw
Mae cynulleidfaoedd yng Nghymru wedi rhoi sgôr uwch i ansawdd a chynnwys unigryw y BBC nag unrhyw gynulleidfa yng ngwledydd eraill y DU, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gydag Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC heddiw.
Mae’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon wedi cael eu cyhoeddi ynghyd â’r ymchwil cynulleidfa ddiweddaraf a’r Adolygiad Blynyddol o Gyngor Cynulleidfa Cymru y BBC, sef y corff sy’n cynghori Ymddiriedolaeth y BBC.
Mae pedwar o bob pum person yng Nghymru yn cytuno bod y BBC yn sicrhau ansawdd, ac mae bron i ddwy ran o dair yn cytuno bod y BBC yn darparu cynnwys unigryw. Mae bron i ddwy ran o dair hefyd yn cytuno bod y BBC yn sicrhau gwerth am arian, y sgôr uchaf ers 2009.
Cafwyd llwyddiannau sylweddol ar-lein, a thwf sylweddol yn y defnydd o BBC iPlayer yng Nghymru; mae presenoldeb S4C ar iPlayer yn mynd o nerth i nerth, ac yn denu 120,000 o geisiadau bob wythnos; ac mae dros 45,000 o ddefnyddwyr gwahanol yn ymweld â Cymru Fyw, gwasanaeth Cymraeg ar-lein a symudol newydd y BBC, bob wythnos.
Cafwyd llwyddiannau amlwg o ran rhaglenni yng Nghymru ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru, ac o ran cyfraniad BBC Cymru at wasanaethau’r BBC ar draws y DU, lle’r oedd yn dal i berfformio’n well nag y dylai – roedd hyn yn cynnwys cyfres newydd o’r ddrama drosedd Y Gwyll, cyfres ddogfen onest o’r enw Young, Welsh and Pretty Skint, y rhaglen ddogfen Life After April sydd wedi ennill gwobrau, a Welsh Heartland am frwydr Pen Llŷn i gadw’i hunaniaeth. Bu cynhyrchiad BBC Cymru o War and Peace yn llwyddiant ar draws y DU a ledled y byd, llwyddodd rhaglen arbennig o Sherlock i ddenu 11.6 miliwn o wylwyr ar Ddydd Calan, ac mae Casualty, Doctor Who, Crimewatch a Coast yn dal yn llwyddiannus. Mae rhaglenni BBC Cymru Wales sy’n benodol i Gymru ar BBC One a BBC Two yn cyrraedd un o bob tri oedolyn yng Nghymru bob wythnos.
Fodd bynnag mae Cyngor Cynulleidfa Cymru y BBC, sef y corff sy’n cynghori Ymddiriedolaeth y BBC, wedi mynegi pryderon am lefel y portread o Gymru gyfoes ar wasanaethau teledu a radio’r BBC ar draws y DU – yn enwedig ym meysydd drama a chomedi – a’r angen i wneud mwy o raglenni teledu Saesneg yng Nghymru ar gyfer Cymru.
Dywedodd Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr y BBC dros Gymru:
"Mae BBC Cymru Wales yn dal i wneud cyfraniad aruthrol at wasanaethau’r BBC ar draws y DU, ac wedi profi dro ar ôl tro ei fod yn ganolfan o ansawdd ar gyfer cynyrchiadau teledu ym Mhrydain. Er hynny, mae neges y gynulleidfa yn glir iawn – maent eisiau i’r BBC wneud mwy i adlewyrchu Cymru fodern a bywydau pobl yng Nghymru. Ac wrth i ni agosáu at ddiwedd y Siarter bresennol ac edrych ymlaen at BBC y degawd nesaf, mae’n rhaid i’r BBC ymateb i’r her honno."
Mae gorsafoedd radio’r BBC hefyd wedi perfformio’n well yng Nghymru nag yn unrhyw un o wledydd eraill y DU eleni. Mae BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru wedi cael blwyddyn lwyddiannus – gan gynnwys y darlledu helaeth o Gwpan Rygbi’r Byd 2015 – ond gwelodd y ddwy orsaf ostyngiad yn y cyfraddau cyrhaeddiad a rhannu dros y flwyddyn.
Dros y flwyddyn diwethaf, cynhaliodd Cyngor Cynulleidfa Cymru 17 digwyddiad cyhoeddus ledled Cymru, yn casglu safbwyntiau’r cyhoedd am yr Adolygiad o Siarter y BBC, am berfformiad ei wasanaethau ac am faterion eraill. Hefyd, cynhaliodd Ymddiriedolaeth y BBC seminar yng Nghaerdydd fis Hydref fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol y BBC ar gyfer y Siarter nesaf.
Nodiadau i Olygyddion
- Mae Adroddiad Blynyddol y BBC wedi cael ei gyhoeddi yn https://www.truemac.vn/annualreport. Eleni, am y tro cyntaf, bydd yr Adroddiad Blynyddol yn cael ei roi’n ffurfiol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon yn ogystal â Senedd y DU.
- Mae’r Adolygiad Blynyddol o Gyngor Cynulleidfa Cymru y BBC wedi cael ei gyhoeddi yn
- Mae Cyngor Cynulleidfa Cymru yn rhoi cyngor i Ymddiriedolaeth y BBC am fuddiannau cynulleidfaoedd yng Nghymru. Mae’n cyfrannu at benderfyniadau’r Ymddiriedolaeth am strategaethau lefel uchel a gwasanaethau’r BBC, ac mae’n sôn am faterion newydd sy’n codi i gynulleidfaoedd lleol. Mae’r Cyngor yn cynnwys gwirfoddolwyr o bob cwr o Gymru sy’n dod o wahanol gefndiroedd ac sydd â gwahanol brofiadau. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn.
Search the site
Can't find what you need? Search here