BBC Trust confirms S4C funding to 2022
The BBC Trust Chairman Rona Fairhead has written to S4C Authority Chairman Huw Jones today, confirming that S4C’s funding will be fixed at its current level of £74.5m until the end of the current licence fee agreement in 2022.
The current funding agreement with S4C runs to March 2017. The Trust had previously pledged to continue this year’s level of funding to 2018 in order to provide financial stability for the channel.
The level of funding to 2022 is set some way above the average projected “read across” which was agreed by the BBC with the Chancellor and Secretary of State as part of the licence fee agreement in July 2015. In today’s letter, Rona Fairhead says “I see this as the right thing to do in recognition of the important role played by S4C for Welsh speaking licence fee payers in particular and as a solid basis on which the S4C Authority and the new BBC Board can work together and maintain the very positive relationship which the BBC Trust has enjoyed with you and your colleagues.”
The Trust has also asked that the new funding settlement is written into the new BBC Framework Agreement, which sits alongside the next BBC Charter.
This funding is in addition to the statutory 10 hours per week of programming provided by BBC Cymru to S4C.
The letter can be read here.
Ymddiriedolaeth y BBC yn cadarnhau cyllid S4C tan 2022
Mae Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC Rona Fairhead wedi ysgrifennu heddiw at Gadeirydd Awdurdod S4C, yn cadarnhau y bydd cyllid S4C yn cael ei gadw ar ei lefel bresennol sef £74.5m hyd at ddiwedd y cytundeb presennol ar ffi’r drwydded yn 2022.
Mae’r cytundeb cyllido presennol gyda S4C yn parhau tan fis Mawrth 2017. Cyn hyn mae’r Ymddiriedolaeth wedi addo parhau â lefel cyllid eleni hyd at 2018 er mwyn darparu sefydlogrwydd ariannol ar gyfer y sianel.
Mae lefel y cyllid hyd at 2022 wedi ei osod gryn dipyn yn uwch na’r lefel gyfartalog a ragwelir (“read across”) ac a gytunwyd gan y BBC gyda Changhellor y Trysorlys a’r Ysgrifennydd Gwladol fel rhan o’r cytundeb ar ffi’r drwydded yng Ngorffennaf 2015. Yn ei llythyr heddiw, dywed Rona Fairhead "Rwy'n ystyried mai dyma’r peth iawn i’w wneud i gydnabod y rôl bwysig sydd gan S4C ym mywyd siaradwyr Cymraeg sy'n talu ffi’r drwydded, ac fel sylfaen gadarn i Awdurdod S4C a Bwrdd newydd y BBC gydweithio yn unol â hi, a chynnal y berthynas hynod gadarnhaol y mae Ymddiriedolaeth y BBC wedi'i mwynhau gyda chi a’ch cydweithwyr."
Yn ogystal mae’r Ymddiriedolaeth wedi gofyn am i’r setliad cyllido newydd hwn gael ei gynnwys a’i nodi o fewn Cytundeb Fframwaith newydd y BBC, sy’n eistedd ochr yn ochr â Siarter nesaf y BBC.
Mae hwn yn gyllid sy’n ychwanegol i’r 10awr o raglenni yr wythnos statudol a ddarperir gan BBC Cymru ar gyfer S4C.
Search the site
Can't find what you need? Search here