Sut mae rhai anifeiliaid y môr yn llwyddo i osgoi ysglyfaethwyr?

Part of CynaliadwyeddBwyd

Cyflwyniad

Mae’r moroedd o gwmpas Cymru yn gartref i bob math o wahanol ysglyfaethwyr. Anifeiliaid sy’n bwyta anifeiliaid eraill er mwyn goroesi yw ysglyfaethwyr. Mae creaduriaid fel siarcod gleision a morloi llwyd i gyd yn dod i’r ardal hon i chwilio am ysglyfaeth.

Morloi llwyd yn gorffwys ar y traeth.
Image caption,
Morloi llwyd

Mae’n bosibl gweld morloi llwyd ar arfordir Sir Benfro. Er eu bod yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn y môr yn bwyta pysgod, maen nhw’n aml yn cael eu gweld yn gorffwys ar y traeth.

Llun tanddwr o siarc glas.
Image caption,
Siarc glas

Mae siarcod gleision yn ymweld â moroedd y Deyrnas Unedig yn ystod misoedd yr haf. Mae ganddyn nhw esgyll pectoral hir, nodweddd sydd ei gwneud hi’n eithaf hawdd i ddweud y gwahaniaeth rhyngddyn nhw a siarcod eraill. Maen nhw’n bwyta pysgod bach a môr-lewys yn bennaf.

Beth ydy ysglyfaethwr?

  • Mae ysglyfaethwyr ar ben y gadwyn fwyd.
  • Mae ysglyfaethwr yn anifail sy’n bwyta anifeiliaid eraill.
  • Yr enw ar yr anifeiliaid y mae ysglyfaethwyr yn eu bwyta yw ysglyfaeth.
Diagram o siarc (wedi'i labelu gyda 'Ysglyfaethwr') a physgod (wedi'i labelu gyda 'Ysglyfaeth').

Mae ysglyfaethwyr yn dod yma i chwilio am ysglyfaeth. Ond mae rhai o’r creaduriaid hyn, neu’r ysglyfaeth, un cam ar y blaen gan eu bod yn gallu cuddio eu hunain. Cuddliwio yw’r enw ar hyn.

Beth ydy cuddliwio?

  • Mae pob math o anifeiliaid yn defnyddio cuddliw i guddio rhag ysglyfaethwyr.
  • Mae hyn yn golygu eu bod wedi newid, neu addasu, er mwyn edrych yn union fel yr hyn sydd o’u cwmpas neu er mwyn cyd-fynd â’r hyn sydd o’u cwmpas.
  • Mae cuddliwio yn ei gwneud hi’n anodd iawn gweld anifeiliaid.
  • Mae anifeiliaid heb guddliw da yn fwy tebygol o gael eu bwyta fel ysglyfaeth.

Yr ysglyfaeth

Môr-lawes cynffon cwta

Math o ystifflog yw môr-lewys cynffon cwta. Maen nhw’n fach iawn, dim mwy na phêl golff. Ond mae gan yr ystifflog bach yma bŵer arbennig - mae’n gallu newid lliw.

Môr-lewys cynffon cwta yn cuddliwio yn erbyn y tywod melyn.

I guddio rhag ysglyfaethwyr, mae’r ystifflog yn newid lliw i gyd-fynd â’r tywod melyn.

Ond dim dyma’r unig beth mae’r ystifflog yn gallu ei wneud. Pan fydd yr ystifflog yn nofio drwy wymon coch, neu fôr-wiail, mae’n newid lliw eto.

Mae croen yr ystifflog yn llawn cemegau sy’n gallu newid lliw ar unwaith.

Octopws crych

Mae gan y creaduriaid anhygoel hyn dair calon a gwaed glas. Maen nhw’n defnyddio eu wyth tentacl i flasu popeth maen nhw’n ei basio. Ond mae gan yr octopws yma bŵer arbennig hefyd. Mae’n gallu newid ei liw a’i siâp.

Octopws crych yn cuddliwio yn erbyn y creigiau a chregyn o dan y dŵr.

Pan fydd ysglyfaethwr yn nesáu, mae’n newid ei liw a’i siâp i gyd-fynd â’r hyn sydd o’i gwmpas.

Cranc hirgoes sgorpion

Mae’r cranc hirgoes sgorpion wedi cael ei orchuddio â phigau main. Mae’r pigau hyn yn galluogi’r crancod i greu eu cuddliw eu hunain. Wrth iddyn nhw grwydro o gwmpas maen nhw’n codi darnau o wymon, gan ffurfio cuddliw effeithiol iawn yn y pen draw.

Copyn sgorpion yn cyd-fynd yn berffaith â’i amgylchedd.

Mae’r cranc hirgoes sgorpion oren llachar hwn wedi gosod darnau o bethau byw, fel sbyngau môr, ar ei bigau. Mae’r sbyngau môr hyn wedi tyfu i orchuddio’r cranc. Mae’n cyd-fynd yn berffaith â’r hyn sydd o’i gwmpas.

Fideo: Ysglyfaethwyr ac ysglyfaeth

Darganfydda sut mae anifeiliaid yn nyfnderoedd y môr yn cuddliwio eu hunain oddi wrth eu hysglyfaethwyr yn eu brwydr i oroesi.

Cwis: Sut mae rhai anifeiliaid y môr yn llwyddo i osgoi ysglyfaethwyr?

Gweithgaredd

Wyt ti’n gallu cuddliwio dy greadur dy hun?

Dewisa arwyneb fel coeden, ffens, wal neu wrych. Wyt ti’n gallu dylunio creadur a fydd yn cael ei guddliwio yn erbyn y cefndir hwn?

Tynna lun o dy greadur a’i addurno. Defnyddia baent, creons neu bensiliau i greu lliwiau a phatrymau addas. Gallet ti hefyd ddefnyddio deunyddiau naturiol i addurno dy anifail. Rho dy ddyluniad ar yr arwyneb. Wyt ti'n gallu ei weld o bell?

A wnest ti lwyddo i greu cuddliw ar gyfer dy greadur? Sut fyddet ti’n gallu gwella dy ddyluniad? Pob lwc.

Ble nesa?

Beth yw mudo a pham mae rhai anifeiliaid yn mudo?

Darganfydda pa mor bell mae rhai anifeiliaid yn teithio pan fyddant yn mudo bob blwyddyn.

Beth yw mudo a pham mae rhai anifeiliaid yn mudo?

Beth yw’r anifail mwyaf deallus yn ein cefnfor?

Oeddet ti'n gwybod bod dolffiniaid yn un o'r anifeiliaid mwyaf clyfar ar y Ddaear?

Beth yw’r anifail mwyaf deallus yn ein cefnfor?

Cynaliadwyedd 8-11 oed

Casgliad o wersi ar gyfer disgyblion rhwng 8 ac 11 oed

Cynaliadwyedd 8-11 oed

More on Bwyd

Find out more by working through a topic