
Cyflwyniad
Efallai fod traethau Cymru ymysg y glanaf yn y Deyrnas Unedig, ond nid yw hynny’n golygu nad yw llygredd yn broblem yng Nghymru chwaith. Mae tunelli o wastraff plastig yn cael eu taflu i’r moroedd bob blwyddyn. Beth ydyn ni’n ei wneud i helpu mynd i’r afael â’r broblem, a sut ydyn ni'n gallu helpu?
Y newyddion da yw bod y frwydr i lanhau llygredd môr yn digwydd ar draws y byd ac mae llawer o draethau yn cael eu dyfarnu am eu glendid.
Traethau Cymru

Mae traeth Baner Las yn golygu ei fod wedi cael Baner Las gan y Sefydliad Addysg Amgylcheddol yn Nenmarc. Mae hyn yn dweud wrthyn ni fod y traeth yn lân iawn a bod ansawdd y dŵr yn rhagorol. Felly os wyt ti’n gweld un o’r baneri hyn, rwyt ti’n gwybod bod y môr yn berffaith ar gyfer nofio.
Yn 2021, enillodd traethau Cymru 45 Baner Las, 15 Gwobr Arfordir Gwyrdd a 25 Gwobr Glan y Môr.
Mae’r môr yn amgylchynu Cymru ar dair ochr. Mae’r moroedd hyn yn lân iawn.
Yn 2023:
- fe wnaeth pob un ond dau o 109 o ddyfroedd nofio yng Nghymru fodloni’r safonau sylfaenol
- roedd dros 70% wedi cyrraedd y safon anoddaf i'w gyrraedd, sef “ardderchog”
Bywyd gwyllt
Mae arfordir Cymru yn gynefin, neu’n gartref, perffaith i lawer o wahanol fywyd gwyllt morol fel dolffiniaid, morloi (seals), llamhidyddion (porpoises), sglefrod môr (jellyfish) a siarcod hyd yn oed.
Mae’r arfordir hefyd yn gartref i nythfeydd o adar pwysig iawn. Os byddi di’n mynd am dro ar hyd yr arfordir, fe allet ti fod yn ddigon ffodus i weld adar drycin Manaw (Manx shearwaters), palod (puffins) a huganod (gannets). Yn wir, mae Cymru’n enwog am fod yn un o’r llefydd gorau yn y byd i weld llawer o’r adar hyn.
Pwy sy’n byw yma?
Image caption, Morloi llwyd
Mae morloi llwyd yn gallu cael eu gweld ar hyd arfordir Cymru drwy’r flwyddyn. Mae morloi gwryw yn cael eu galw’n deirw ac maen nhw’n gallu pwyso cymaint â 230 kg – mae hynny tua’r un pwysau â llew sy’n llawn maint. Maen nhw’n treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn ceisio dal pysgod, ond mae'n bosibl dod o hyd iddyn nhw’n aml pan fyddan nhw’n dychwelyd i’r tir i gael seibiant.
Image caption, Maelgi ('Angelshark')
Mae'r maelgi mewn perygl difrifol. Maen nhw ymhlith y siarcod mwyaf prin yn y byd. Mae ganddyn nhw gyrff gwastad ac esgyll ac maen nhw’n edrych yn debyg iawn i forgath. Yn 2021, gwelwyd maelgi ym Mae Ceredigion, ac roedd yn siarc ifanc. Felly, mae arbenigwyr o’r farn bod y siarcod yn rhoi genedigaeth mewn dyfroedd o amgylch Cymru. Mae hyn yn newyddion da iawn gan ei fod yn dangos poblogaeth fridio weithgar.
Image caption, Dolffin trwyn potel
Oeddet ti’n gwybod bod llawer o ddolffiniaid Prydain yn byw ym Mae Ceredigion? Rwyt ti’n fwyaf tebygol o weld pod, neu grŵp o ddolffiniaid, yn ystod misoedd yr haf. Maen nhw’n aml yn rasio ochr yn ochr â chychod pysgota, yn mynd ar ôl pysgod neu hyd yn oed yn chwarae yn y môr.
Image caption, Sglefrod môr
Bob haf, mae mwy a mwy o sglefrod môr i’w gweld ar draethau Cymru. Dydyn nhw ddim wedi cael eu gwneud o jeli. Mae 95% ohonyn nhw’n ddŵr a does ganddyn nhw ddim ymennydd, gwaed na chalon. Maen nhw’n parlysu eu hysglyfaeth gyda’u tentaclau a’u breichiau ceg hir. Cofia fod yn ofalus os byddi di’n sylwi ar un, oherwydd mae rhai sglefrod yn gallu pigo.
Image caption, Môr grwban lledraidd
Mae môr grwbanod lledraidd hefyd wedi cael eu gweld ar hyd arfordiroedd Cymru. Mae'r anifeiliaid prin hyn wedi cael eu gweld yng ngogledd Cymru ac ar Benrhyn Gŵyr. Y môr grwban lledraidd yw’r rhywogaeth fwyaf o grwban yn y byd. Maen nhw'n gallu tyfu i fod yn 2.5 metr o hyd ac maen nhw'n gallu byw am gyn hired â chan mlynedd.
1 of 5
Felly beth yw'r broblem?

Mae miliynau o dunelli o sbwriel plastig yn mynd i foroedd y byd bob blwyddyn. Mae’r cynnydd mewn llygredd plastig yn fater sy’n cael sylw ar draws y byd, ond mae’r sbwriel yn dal i ddod.
Mae’r rhan fwyaf o’r plastig hwn yn suddo i waelod y môr, felly dydy e ddim yn gallu cael ei weld, ond mae'n achosi problemau i anifeiliaid a phobl.
Er nad ydyn ni bob amser yn gallu ei weld, mae gwastraff plastig yn llygru ein moroedd ym mhob cwr o’r byd.
Beth y gellir ei wneud?
Mae gwirfoddolwyr yn gweithio’n galed i lanhau ein moroedd a’n traethau. Efallai dy fod di hyd yn oed wedi cymryd rhan mewn gwaith glanhau traeth lleol ond mae rhai gwirfoddolwyr yn mynd â phethau gam ymhellach.

Fideo: Achub bywyd morol
Cwrdd â’r arbenigwr
Mae David Kennard yn rhan o dîm o sgwba-blymwyr proffesiynol sy’n cynnal sesiynau casglu sbwriel dan y dŵr. Dydy hyn ddim bob amser yn dasg hawdd. Mae gweld o dan y môr yng Nghymru yn gallu bod yn heriol iawn ac mae dod o hyd i sbwriel yn gallu bod yn dasg anodd, ond maen nhw wedi dod o hyd i bob math o eitemau o dan y môr.
Gwylia grŵp o sgwba-blymwyr gwirfoddol yn achub bywyd gwyllt y môr.
Beth allen ni ei wneud i helpu?
Mae plastig yn fygythiad enfawr i gynefin y môr. Dyma’r math mwyaf cyffredin o sbwriel sy’n cael ei daflu i’r môr.
Beth am gymryd rhan mewn digwyddiad glanhau traeth wedi’i drefnu? Ond cofia ddilyn yr awgrymiadau canlynol.

- Rhaid gwisgo esgidiau addas fel nad wyt ti’n llithro nac yn sefyll ar unrhyw beth miniog.


- Gwisgo menig gwarchodol.


- Peidio â chyffwrdd na niweidio unrhyw fywyd gwyllt.


- Mynd â sbwriel adref gyda ti pan fyddi di’n gadael y traeth.

Mae angen i ni barchu’r môr a’n traethau.
Mae treulio dau funud yn casglu unrhyw sbwriel sy’n cael ei adael ar y traeth yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn.
Cwis: Sut allwn ni dynnu plastig o'r môr?

Ble nesaf?
All morwellt arafu newid hinsawdd?
Oeddet ti'n gwybod bod morwellt yn cael ei alw'n "ysgyfaint y môr"?

Sut mae newid hinsawdd yn newid glan môr?
Darganfydda fwy am sut mae nwyon tŷ gwydr, cynhesu byd-eang, a'r capiau iâ sy'n toddi yn effeithio ar bentref Fairbourne yng ngogledd Cymru.

Cynaliadwyedd 8-11 oed
Casgliad o wersi ar gyfer disgyblion rhwng 8 ac 11 oed

More on Gwastraff a llygredd
Find out more by working through a topic
- count1 of 2