Dyn i wynebu achos llofruddiaeth wedi marwolaeth menyw

Tracey DaviesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Tracey Davies ei darganfod yn farw mewn eiddo yng Nghefn Cribwr ar 18 Ebrill

  • Cyhoeddwyd

Bydd dyn 56 oed sydd wedi'i gyhuddo o ladd menyw ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn wynebu achos llys ym mis Hydref.

Yn ystod gwrandawiad byr yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth, fe gadarnhaodd Michael Davies ei enw, ei oedran a'i gyfeiriad yn unig.

Mae wedi'i gyhuddo o lofruddio Tracey Davies, 48, a gafodd ei darganfod yn farw mewn eiddo ar Bryn Terrace yng Nghefn Cribwr ar 18 Ebrill.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad y byddai angen deufis ar yr heddlu i baratoi ac y byddai angen i'r amddiffyniad wybod achos yr erlyniadau er mwyn paratoi adroddiadau seiciatrig ac asesu a yw Mr Davies yn iach i bledio.

Trefnwyd bod yr achos llys yn dechrau ar 20 Hydref, gyda gwrandawiad paratoi ar 27 Mai i wirio unrhyw ddatblygiadau.