Y m mis Mawrth 2024 gwnaethom nodi tair rôl hanfodol y gall y BBC eu chwarae ar gyfer ein democratiaeth, ein heconomi greadigol a’n cymdeithas, sef canfod y gwirionedd heb agenda, cefnogi prosesau adrodd straeon cartref a dod â phobl ynghyd.
Ein nod yw blaenoriaethu’r tai’r rôl hyn a chyflwyno BBC sy’n fwy perthnasol, a ddefnyddir yn gyffredinol ac sy’n cynnig gwerth eithriadol i bob cynulleidfa. Rhan fawr o hyn yw creu lle sy’n denu’r bobl orau ac yn eu galluogi i wneud eu gwaith gorau.
Rydym am i’r BBC fod yn sefydliad sy’n unigryw am ei greadigrwydd, ei arloesedd a’i gynhwysiant, sy’n destun edmygedd ledled y byd ac sy’n gwireddu ei werthoedd bob dydd. Felly, mae arloesedd, cynhwysiant ac ymdeimlad o berthyn yn bwysig yn y BBC, a gwyddom eu bod yn bwysig i’n cynulleidfaoedd. Rhaid i ni wasanaethu pawb, bwy bynnag a ble bynnag y bônt a chynrychioli a phortreadu’r holl gymunedau amrywiol ledled y DU.
Yn 2021, gwnaethom gyhoeddi cynllun amrywiaeth a chynhwysiant tair blynedd ac yn ystod yr un flwyddyn, gwnaethom gyflwyno ein hymrwymiadau cyntaf erioed o ran amrywiaeth greadigol. Rydym wedi dod yn bell ers hynny ac rwy’n falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni
Rydym wedi dyblu’r gwariant a neilltuwyd gennym ar gynnwys amrywiol, wedi cynyddu nifer y menywod yn y gweithlu er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau ac wedi cynyddu’r gynrychiolaeth staff Du, Asiaidd a ethnig leiafrifol ar draws y BBC. Ond mae llawer i’w wneud o hyd, yn enwedig ynghylch anabledd.
Rhaid i ni hefyd barhau i feithrin diwylliant cynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i fod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Bydd hyn yn helpu i greu’r syniadau gorau, a gwella’r ffordd rydym yn gwneud pethau. Mae ein gwaith ar amrywiaeth a chynhwysiant yn addasu ac yn datblygu i adlewyrchu ein ffocws newidiol. Gwn fod hyn yn her y mae timau yn ei chroesawu ac sy’n ein hysgogi i ganfod dulliau ac atebion newydd a chyffrous.
Am y tro cyntaf, rydym yn dwyn ynghyd ein cynlluniau ar gyfer amrywiaeth y gweithlu a’n cynlluniau ar gyfer amrywiaeth greadigol mewn un strategaeth. Mae’r ddogfen hon yn nodi sut rydym yn bwriadu mynd ymhellach ac yn gyflymach i greu BBC sydd wir yn cynrychioli’r holl gynulleidfaoedd a wasanaethir gennym, a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Bydd ein cynlluniau newydd yn sicrhau, p’un a ydych yn aelod o’r gynulleidfa, yn bartner cynhyrchu neu’n gyflogai, bod y BBC ar eich cyfer chi.
Tim Davie
Cyfarwyddwr Cyffredino
Gweithlu: • Adlewyrchu ein cynulleidfaoedd yn ein gweithlu • Creu amgylcheddau gweithio cynhwysol a hygyrch • Ceisio barn ein cydweithwyr er mwyn gwella’r ffordd rydym yn gweithio |
Creadigol:
• Annog cynrychiolaeth yn ein cynnwys ar yr awyr ac oddi ar yr awyr • Creu diwylliant cynhwysol ar bob cynhyrchiad • Atgyfnerthu a meithrin ein partneriaethau presennol yn y diwydiant |