Diweddarwyd y dudalen: 4 Ionawr 2022
Pan fyddwch wedi mewngofnodi i’r BBC, byddwn yn argymell pethau rydyn ni’n meddwl y byddwch yn eu hoffi. Felly, yn ogystal â gweld beth sy’n fwyaf poblogaidd, gallwch hefyd ganfod pethau eraill y byddech o bosib yn eu methu fel arall.
Sut ydych chi’n gwneud argymhellion?
Rydyn ni’n eu seilio ar y ffordd rydych chi wedi bod yn defnyddio’r BBC. Er enghraifft, os ydych chi’n gwylio llawer o raglenni natur, efallai y byddwn yn argymell rhaglen ddogfen newydd gan David Attenborough.
Rydyn ni hefyd yn argymell pethau mae pobl â chwaeth tebyg yn eu mwynhau. Ac rydym ninnau’n talu'r gymwynas yn ôl drwy argymell y pethau rydych chi’n eu mwynhau i’r bobl hynny.
Ble mae dod o hyd i argymhellion?
Chwiliwch o dan “Argymhellion i chi”. Maen nhw i'w cael ar dudalen hafan BBC, BBC iPlayer, BBC Sounds ac ar ap BBC+.
Sut alla i wella fy argymhellion?
Wrth i chi ddefnyddio’r BBC, bydd yr argymhellion yn gwella. Os nad ydych am weld argymhellion, gallwch allgofnodi o’r BBC.
Gallwch ddarllen am yr hyn rydyn ni’n ei wneud â’ch data yma.
Byddwn yn cadw unrhyw wybodaeth amdanoch chi yn ddiogel yn unol â’n Polisi Preifatrwydd a Chwcis.