Syniadau meddygol yn y cyfnod canoloesol
Roedd yr hen Roegwyr a Rhufeiniaid, yn arbennig HippocratesMeddyg Groegaidd, oddeutu 400 CC. Yr enw arno yw ‘tad meddygaeth fodern’ gan ei fod wedi datblygu theori'r pedwar hiwmor, a’r syniad o arsylwi a chofnodi salwch ac afiechydon. a GalenOddeutu 129-203 OC. Adfywiwyd syniadau Hippocrates gan annog tynnu gwaed fel triniaeth, ar ôl dysgu am anatomi wrth drin gladiatoriaid wedi’u hanafu., yn ddylanwad mawr ar syniadau meddygol yn yr Oesoedd Canol. Er nad oedd Galen yn Gristion, fe’i derbyniwyd gan yr Eglwys oherwydd ei fod yn credu bod gan bobl enaid, ac yn aml yn ei lyfrau mae’n cyfeirio at y Creawdwr. Felly, roedd cwestiynu Galen, yn gyfystyr â herio athrawiaethau’r Eglwys.
Y pedwar gwlybwr oedd:
- fflem
- gwaed
- bustl melyn
- bustl du
Pan fyddai’r gwlybwyr yn aros yn gytbwys, byddai person yn aros yn iach, ond pan fyddai gormodedd o un gwlybwr byddai salwch yn digwydd.
- Pan fyddai trwyn claf yn rhedeg, byddai hynny’n digwydd oherwydd bod gormod o fflem yn y corff.
- Pan fyddai trwyn claf yn gwaedu, byddai hynny’n digwydd oherwydd bod gormod o waed yn y corff.
Roedd yn bwysig cadw cydbwysedd yng nghorff y claf. Roeddent yn gwneud hynny drwy gael gwared â gormod o hylif:
- cafwyd gwared â gormod o waed drwy waedu i fowlen neu ddefnyddio gelod
- gellid cael gwared â bilen drwy ddefnyddio carthyddMeddyginiaeth sy’n helpu’r claf wagio’r coluddyn er mwyn glanhau’r corff.
Roedd meddygon canoloesol hefyd yn defnyddio astroleg, oherwydd eu bod yn credu bod symudiad y sêr yn effeithio ar iechyd pobl. Daw’r gair modern “influenza” o air Eidalaidd canoloesol sy’n golygu “dylanwad” y planedau.
Roedd pob rhan o’r corff yn gysylltiedig ag arwydd astroleg, a byddai triniaethau megis gwaedu ond yn digwydd pan fyddai’r lleuad yn y man cywir. Felly, roedd meddygon angen gwybodaeth am astroleg yn ogystal â meddygaeth.
Yn ôl siart canoloesol y Dyn Sidydd (Zodiac Man), roedd pob rhan o’r corff yn gysylltiedig ag arwydd astroleg. Roedd meddygon yn edrych mewn llyfr o’r enw Valemecum oedd yn cynnwys siartiau i benderfynu pryd i waedu cleifion neu gyflawni triniaethau eraill.
Credid bod hyd yn oed planhigion meddyginiaethol o dan ddylanwad y sêr a’r planedau. Mor ddiweddar â’r 17eg ganrif, ysgrifennodd Nicholas Culpeper, perlysieuydd enwog o Lundain, y cyngor hwn am ddant y llew yn ei lysieulyfr.
DANDELION - (Leontodon Taraxacum)
VULGARLY called Piss-a-Beds
It is under the dominion of Jupiter... It is of an opening and cleansing quality and therefore very effectual for obstructions of the liver…It openeth the passages of the urine in both young and old.
Felly, mewn rhai ffyrdd, roedd gwybodaeth feddygol yn mynd gam yn ôl yn Ewrop yr Oesoedd Canol. Collwyd llawer o wybodaeth y Groegwyr a’r Rhufeiniaid, a daeth ofergoeliaeth yn ei lle.
Roedd meddygon nid yn unig yn defnyddio astroleg cyn trin cleifion, ond roedd Brenhinoedd yn credu y byddent yn gallu gwella pobl oedd yn dioddef â mandwynClefyd erchyll sy’n achosi i chwarennau’r gwddf chwyddo. Mae’n fath o TB., ‘Haint y Brenin’, dim ond drwy gyffwrdd ynddyn nhw.
Roedd y werin bobl yn troi at offeiriaid neu’n mynd i weld dynion hysbys i gael cymorth.
Roedd yr Eglwys yn gwahardd dyrannu cyrff ac yn pregethu yn erbyn arbrofion. Ond, roedd yr Eglwys yn annog pobl i fynd ar Grwsadau i’r Tir Sanctaidd, ble’r oeddent yn dod i gysylltiad â’r byd Mwslimaidd. Roedd meddygon Mwslimaidd yn fwy gwybodus na’u cyfoedion Ewropeaidd, a bu i hynny arwain at welliannau mewn gwybodaeth feddygol.