Maes gwybodaeth feddygol yn y 19eg ganrif
Ar ddechrau’r 19eg ganrif, er y bu ychydig o ddatblygiadau ym maes gwybodaeth feddygol, nid oedd gwyddonwyr o hyd yn deall beth oedd yn achosi clefydau.
Damcaniaeth germau
Y datblygiad mawr nesaf oedd yn y 1860au pan ddaru Louis Pasteur, gan ddefnyddio microsgop Lister, ddarganfod germau a chwyldroi gwybodaeth feddygol.
Louis Pasteur
Yn y 1950au roedd y gwyddonydd o Ffrainc, Louis Pasteur, yn cael ei gyflogi gan gwmni bragu er mwyn canfod pam fod eu cwrw yn suro. Drwy’r microsgop gwnaeth ddarganfod micro-organebEnw arall ar microb. Mae’n ficrosgopig ac yn organeb, megis firws neu bacteria, neu ffwng megis burum. oedd yn tyfu yn yr hylif. Roedd yn credu bod y germau yma, a gafodd yr enw hwnnw oherwydd ei bod yn ymddangos eu bod yn tyfu (germinating), yn achosi’r broblem. Gwnaeth ddarganfod y gellid lladd y bacteria microsgopig oedd yn suro’r cwrw drwy ei gynhesu drwy pasteureiddioWedi ei enwi ar ôl Louis Pasteur, dyma’r dull o sterileiddio drwy gynhesu er mwyn difa micro-organebau niweidiol..
Yn 1861, cyhoeddodd Pasteur ei theori germau ac, erbyn 1865, roedd wedi profi bod cyswllt rhwng germau ac afiechyd. Yn 1879, darganfu frechiad ar gyfer colera’r ieir. Canfu bod y germ, wrth i aer allu cyrraedd ato, yn gwanio, a bod rhoi brechiad o’r germ gwannach yma i ieir yn eu hatal rhag dal yr afiechyd. Yn 1881, datblygodd frechiad ar gyfer anthracs ac, erbyn 1885, brechiad ar gyfer y gynddaredd.
Robert Koch
Ar ddiwedd y 1870au dechreuodd yr Almaenwr, Robert Koch gymhwyso syniadau Pasteur i glefydau dynol. Drwy wneud hynny fe greodd wyddoniaeth bacterioleg. Canfu’r bacteria oedd yn achosi anthracs (1875), TB (1882) a colera (1883). Roedd Koch yn drylwyr iawn. Er mwyn ynysu’r bacteria anthracs, fe drosglwyddodd y bacteria drwy 20 cenhedlaeth o lygod nes ei fod yn fodlon bod ganddo’r ficro-organeb gywir. Hefyd, datblygodd Koch gyfrwng ar gyfer tyfu bacteria a ffordd o’u staenio fel y gellid eu gweld yn rhwyddach.
Bu i lwyddiant Koch ysgogi Pasteur fwrw iddi eto. Yn y cyfnod hwn roedd yna elyniaeth fawr rhwng Ffrainc a’r Almaen, yn dilyn rhyfel yn 1870. Roedd llywodraeth yr Almaen wedi rhoi tîm o wyddonwyr i gynorthwyo Koch, a nawr penderfynodd llywodraeth Ffrainc gefnogi Pasteur a wnaeth ddatblygu brechiadau hefyd.
Yn y 1880au a’r 1890au bu datblygiadau mawr o ran canfod y bacteria oedd yn achosi clefydau a datblygu brechiadau.
- Roedd llywodraethau yn rhoi arian er mwyn cefnogi ymchwil gwyddonol. Yng Nghymru, roedd Dr J W Power, Swyddog Meddygol dros Iechyd Glyn Ebwy, yn allweddol o ran sefydlu cyrsiau bacterioleg yng Ngholeg y Brenin, Llundain
- Roedd gwyddonwyr fel Pasteur a Koch yn arwain timau o wyddonwyr medrus. Bu i Emil von Behring, un o dîm Koch, ddarganfod gwrth-docsinSylwedd a ffurfir yn y corff sy’n ymladd yn erbyn bacteria niweidiol penodol. a gyda Emile Roux, un o gydweithwyr Pasteur, fe’i defnyddiodd i ddatblygu brechiad yn erbyn difftheria. Cynhyrchodd Paul Ehrlich, un o fyfyrwyr Koch, gyffur Salvarsan 606 er mwyn trin syffilis. Dyma oedd y cyntaf o’r math o gyffuriau a alwyd yn
fwledi arian
, a ddyluniwyd i dargedu germau penodol.
Datblygiadau mewn llawdriniaeth orthopaedig
Thomas Rocyn Jones
Yn y 19eg ganrif bu datblygiadau ym maes orthopaedigCangen o feddygaeth sy’n ceisio atal a chywiro problemau sy’n effeithio ar esgyrn a chyhyrau.. Roedd yna nifer o osodwyr esgyrn arloesol o Gymru a helpodd i newid y ffordd o drin anafiadau orthopaedig.
Yng nghanol y 19eg ganrif sefydlodd Thomas Rocyn Jones bractis yn nyffrynnoedd Gwent ac ennill enw da am drin toriadau, datgymaliadau ac anafiadau cyhyrol. Datblygodd fathau newydd o sblintiau er mwyn trin anafiadau tendonau. Hefyd, roedd yn gosod cymhorthion y tu mewn i esgidiau er mwyn gwella straen traed. Ond ni ddefnyddiwyd ei syniadau’n eang i drin anafiadau orthopaedig am 50 mlynedd arall.
Teulu Thomas Ynys Môn
Bu i sawl cenhedlaeth o deulu Thomas Ynys Môn wneud cyfraniadau pwysig hefyd. Symudodd Evan Thomas i Lerpwl, gan arbenigo mewn clefydau’r esgyrn a’r cymalau. Daeth ei bum mab i fod yn feddygon.
Ystyrir mai ei fab hynaf, Hugh Owen Thomas, oedd yn llawfeddyg, yw tad llawfeddygaeth orthopaedig fodern. Dyluniodd sblintiau hefyd.
Dyfeisiwyd sblint Thomas yn 1875 er mwyn helpu i wella toriadau yn y ffemwr (asgwrn y forddwyd). Roedd yn helpu i leddfu poen ac yn lleihau nifer y trychiadau oedd eu hangen. Defnyddiwyd sblint Thomas yn eang ar anafiadau coes yn ystod y ddau ryfel byd. Mae’n cael ei ddefnyddio hyd heddiw.
Roedd Syr Robert Jones yn nai i Hugh Owen Thomas. Astudiodd gyda’i ewythr ac yna ef oedd darlithydd orthopaedig cyntaf Prifysgol Lerpwl. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fe’i penodwyd yn bennaeth orthopaedig y fyddin. Drwy ddefnyddio sblint Thomas llwydodd i ostwng y gyfradd marwolaethau o ganlyniad i dorri esgyrn o 80 y cant i 20 y cant.
Rhyngddyn nhw, y gosodwyr esgyrn yma o Gymru gosododd sylfaen llawfeddygaeth orthopaedig fodern.